Ewch i'n hafan a chwiliwch am le gan ddefnyddio'ch cod post
Gwneud cais
Llenwch y ffurflen gais gyda'ch manylion
Os yw'r lle'n llawn, gallwch wneud cais i'r rhestr aros
Gallwch wneud cais i gynifer o restrau aros ag y dymunwch
Os nad oes lleoedd ar gael yn agos atoch chi, cliciwch 'Awgrymu Lleoliad' i ddweud wrthym ymhle rydych eisiau lle parcio beiciau
Aros
Os oes lle ar gael, bydd ein tîm yn cysylltu â chi o fewn 48 awr i gynnig y lle i chi
Byddant yn anfon cyfarwyddiadau atoch ar sut i dalu am eich lle a byddant yn anfon allwedd atoch yn y post unwaith y bydd eich taliad wedi'i dderbyn
Bydd ein tîm yn cysylltu â chi dim ond pan fydd lle ar gael
Sylwch fod rhai o'n rhestrau aros yn hir iawn ac efallai y bydd peth amser cyn i ni gysylltu, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn cysylltu â chi!
Bikehangars
£72 y flwyddyn ynghyd â blaendal ad-daladwy o £25 am yr allwedd
Mae'r gost yn rhatach os bydd y cyngor yn rhoi cymhorthdal
I'w agor gydag allwedd
Dyrennir lle penodol i'r aelodau, pob un wedi'i farcio â llythyren A-F. Cadwch at eich lle chi os gwelwch yn dda.
1 lle fesul person (os bydd tanysgrifiwr yn talu am fwy na 2 le, byddant yn cael eu had-dalu'n awtomatig, wedi tynnu ffioedd y trafodyn)
Mae'r lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y ffaith mai'r cyntaf i gysylltu sy'n cael lle.
Mae'n annhebygol na fydd eich beic yn ffitio, ond mewn sefyllfa felly mae gennych 14 diwrnod i ddychwelyd yr allweddi i gael ad-daliad llawn
Ni argymhellir y gwasanaeth hwn ar gyfer beiciau cargo a seddi plant
Gwiriwch fod eich beic yn cyfateb i'r mesuriadau beic a ganiateir: (Uchder) 1200mm x (Hyd) 1800mm x (Lled) 750mm gyda theiars hyd at 59mm o led (sylwch, mae'r dimensiynau hyn yn amcangyfrifon ac maent yn ddibynnol ar y safle lle gosodwyd y Bikehangar a'r defnyddwyr eraill yn y Bikehangar)
Canslo ac Ad-daliadau
Rhowch eich allwedd(i) mewn amlen wedi'i phadio a chynnwys y Ffurflen Dychwelyd Allwedd hon y gallwch ei lawrlwytho.
Os yw'n well gennych, gallwch hefyd lenwi Ffurflen Cais i Ganslo ar-lein.
Unwaith y derbynnir ac y prosesir eich allweddi, byddwn yn canslo'ch tanysgrifiad ac yn ad-dalu'ch blaendal i chi
Nid yw Cyclehoop yn gyfrifol am allweddi sydd wedi mynd ar goll yn y post. Er mwyn sicrhau bod eich allweddi'n cyrraedd yn ddiogel, rydym yn argymell eich bod yn eu postio trwy ddosbarthiad wedi'i gofnodi.
Os cymerir taliad cyn i'r cyfrif gael ei ganslo, bydd Cyclehoop yn ad-dalu'r swm llawn cyn belled â bod y canslo'n digwydd o fewn y flwyddyn danysgrifio, gyda chyfnod gras o 1 wythnos ar ôl y dyddiad adnewyddu.
Os na fyddwch yn dychwelyd yr allwedd atom neu os byddwch yn pasio'r allwedd i berson arall, byddwch yn fforffedu'ch blaendal allwedd yn awtomatig ac ni fydd unrhyw arian yn cael ei ddychwelyd atoch.
Allweddi
Os byddwch yn colli eich allwedd, cysylltwch â ni ar unwaith neu logiwch achos yn eich cyfrif
Mae allweddi newydd yn costio £25 am un Bikehangar
Rhaid talu am allweddi ymlaen llaw
Mae gan allweddi amser arweiniol o dair wythnos waith
Bydd allweddi'n cael eu postio i'ch cyfeiriad post sydd ar eich cyfrif
Ni allwch ddefnyddio'ch blaendal allwedd gwreiddiol i dalu am gost eich allwedd newydd
Mae trosglwyddo eich allweddi i breswylydd arall yn torri ein telerau ac amodau. Mae hyn yn difrïo ein system rhestrau aros teg yn ogystal â pheryglu diogelwch defnyddwyr eraill. Bydd methu â chydymffurfio â'r rheol hon yn arwain at ganslo'r tanysgrifiad ar unwaith yn ogystal â gwaharddiad oes rhag defnyddio'r gwasanaeth.
Yn unol â'n Polisi Dwyn Beiciau, rydych yn gadael eich beic ar eich cyfrifoldeb eich hun. Nid yw Cyclehoop na'r cyngor yn gyfrifol am achosion o golli, difrodi a dwyn beiciau, cloeon neu eitemau eraill sy'n cael eu storio yn yr unedau.
Yswiriant
Mae gan Cyclehoop bartneriaeth gyda Bikmo, sef cwmni darparu yswiriant beic arbenigol. Mae Bikmo yn cydnabod Bikehangars fel opsiwn parcio beiciau hirdymor addas i bobl sy'n byw gerllaw.
Gall cwsmeriaid Cyclehoop gael gostyngiad o 10% ar eu hyswiriant beic. Gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut i hawlio'r gostyngiad hwn ar eich e-bost croesawu. Cysylltwch â'r tîm os na allwch ddod o hyd i'r rhain.
Os ydych yn aros am le mewn Bikehangar, gallwch barhau i hawlio gostyngiad o 5% ar eich yswiriant beic. Ewch i bikmo.com i gael rhagor o wybodaeth a defnyddiwch y cod HOOP5 i hawlio'ch gostyngiad.
Sut maen nhw'n cael eu gosod?
Y cyngor sy'n prynu'r unedau, a nhw sy'n penderfynu ymhle maen nhw am gael eu gosod yn yr ardal. Mae Cyclehoop yn gyflenwr, ac rydym yn rhoi cyngor am y lleoliadau lle gallent gael eu gosod, ond y cyngor sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar leoliadau.
Cwestiwn?
Oes gennych chi gwestiynau am gael lle mewn bikehangar, neu gwestiynau am eich tanysgrifiad presennol? Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin Bikehangar.